Rhif y ddeiseb: P-06-1331

Teitl y ddeiseb: Ystyriwch roi gofynion cyfreithiol ar waith i bob busnes preifat i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb.

Geiriad y ddeiseb: Mae Ysgol Gynradd Libanus wedi bod yn edrych ar y model cymdeithasol ac o ganlyniad wedi edrych ar ba mor hygyrch a chynhwysol yw’n tref leol i unigolion abl ac anabl. Ar ôl ysgrifennu at y cyngor, dywedwyd nad oes rhaid i eiddo preifat ddilyn y safon llym y mae’n rhaid i fusnesau’r llywodraeth.  Felly, hoffai Ysgol Gynradd Libanus fynd i’r afael â’r mater hwn i sicrhau bod pob aelod o gymdeithas yn gallu symud drwy ein tref a’n gwlad yn ddidrafferth.

Mae Ysgol Gynradd Libanus yn tristáu o weld realiti byw gydag anabledd a hoffai wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau holl ddinasyddion Cymru. Drwy wrando ar stori eiriolwr o Anabledd Cymru, mae’n amlwg bod modd gwneud mwy i sicrhau bod Cymru’n wlad hygyrch i bawb.

 

 

 


1.        Y cefndir

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Adran 20 o’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau i wneud addasiadau rhesymol fel nad yw person anabl o dan ‘anfantais sylweddol’ o’i gymharu â pherson nad yw’n anabl wrth gael gafael ar wasanaethau a chyfleusterau.

Mae'r ddyletswydd hon yn cynnwys tri gofyniad:

§    newid y ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud; 

§    gwneud newidiadau i oresgyn rhwystrau a grëwyd gan nodweddion ffisegol adeilad y darparwr gwasanaeth;

§    darparu cymhorthion a gwasanaethau ychwanegol, fel darparu offer ychwanegol neu ddarparu gwasanaeth gwahanol neu ychwanegol.

Nid yw’r Ddeddf yn rhagnodi beth allai gynrychioli addasiad rhesymol, gan fod hyn i'w benderfynu yn unol ag amgylchiadau penodol pob achos unigol.

Mae canllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn nodi bod yr hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar faint a natur y busnes, ymhlith ystyriaethau eraill. Felly, gall yr hyn sy'n cael ei ystyried yn addasiad rhesymol i sefydliad mawr fel banc fod yn wahanol i'r hyn sy'n cael ei ystyried yn addasiad rhesymol ar gyfer siop fach annibynnol.

Mae ymateb y Gweinidog i’r ddeiseb yn cyfeirio at y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ac at ganllawiau i ddarparwyr gwasanaethau ac mae’n datgan:

Fel rhan o’r ddyletswydd mae’n rhaid i rai pobl neu sefydliadau fel cyflogwyr, siopau, awdurdodau lleol ac ysgolion gymryd camau cadarnhaol i chwalu’r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl. Diben hyn yw sicrhau bod pobl anabl yn cael yr un gwasanaethau â phobl nad ydynt yn anabl.

.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Y model cymdeithasol o anabledd

Yn hanesyddol, mae llunwyr polisïau a darparwyr gwasanaethau wedi gweld pobl anabl drwy fodel meddygol, lle ystyrir mai nam rhywun yw'r hyn sy'n eu gwneud yn anabl. Y nod yw 'trwsio' person anabl fel ei fod yn cyd-fynd yn well â’r gymdeithas, yn hytrach nag addasu’r gymdeithas i ddarparu ar gyfer pobl â namau. Cafodd y model cymdeithasol o anabledd ei ddatblygu gan y mudiad hawliau anabledd ac mae'n gwneud gwahaniaeth pwysig rhwng 'nam' ac 'anabledd'. .

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wreiddio'r model cymdeithasol o anabledd a dileu'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar annibyniaeth pobl anabl.

Mae defnyddio dull sy'n seiliedig ar fodel cymdeithasol yn fater o edrych ar y rhwystrau ar draws cymdeithas. Gall y rhwystrau hyn gynnwys rhwystrau corfforol a sefydliadol ac agweddau negyddol sy'n gweithredu fel rhwystr rhag sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys a’u bod yn gallu cymryd rhan yn eu bywydau pob dydd a thrwy gydol eu bywyd.

Yn ei hymateb i’r ddeiseb, ailddatganodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wreiddio'r model cymdeithasol o anabledd ac mae’n datgan:

Ers mabwysiadu’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ffurfiol yn 2002, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymroddedig i gymhwyso’r model ym mhopeth y mae’n ei wneud.

Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol.

Cyhoeddwyd y Fframwaith Gweithredu ar sail Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol’ Llywodraeth Cymru yn 2019. Mae’n nodi sawl cam gweithredu i wella mynediad ar gyfer pobl anabl sy’n berthnasol i fusnesau, gan gynnwys drwy ystyried y defnydd o sgôr hygyrchedd a fyddai’n berthnasol i safleoedd twristiaeth ac i safleoedd hanesyddol a henebion yng ngofal y wladwriaeth.

Tasglu Hawliau Pobl Anabl

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl yr adroddiad: Drws ar glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.. Sefydlodd Llywodraeth Cymru Dasglu Hawliau Pobl Anabl  i fynd i'r afael â'r materion a amlygwyd yn yr adroddiad ac i ddatblygu camau gweithredu ar gyfer Cynllun Gweithredu ar Hawliau Pobl Anabl newydd.

Mewn ymateb i’r ddeiseb, amlinellodd y Gweinidog waith y Tasglu:

Mae’n dod â phobl sydd â phrofiad bywyd, Arweinwyr Polisïau Llywodraeth Cymru, a chynrychiolwyr sefydliadau ynghyd i nodi’r materion a’r rhwystrau sy’n effeithio ar fywydau llawer o bobl anabl. Mae’r Tasglu yn gweithio o fewn cwmpas cylch gwaith cyfreithiol Llywodraeth Cymru ac nid mewn meysydd sy’n dod o dan gyfrifoldebau Llywodraeth y DU yn unig.

Bydd y Tasglu yn parhau hyd 2024, a disgwylir ‘Cynllun Gweithredu ar Hawliau Pobl Anabl’ ym mis Mawrth 2024. Dywedodd y Gweinidog:

Rwy’n disgwyl i waith y Tasglu Hawliau Dynol arwain at gynllun gweithredu clir a sylweddol i wella cydraddoldeb ar gyfer pobl anabl yng Nghymru. Caiff y cynllun ei gyd-gynhyrchu â phobl anabl a sefydliadau pobl anabl. Gwneir hyn i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi mesurau ar waith a fydd yn cael effeithiau cadarnhaol ar y meysydd angenrheidiol i sicrhau bod rhwystrau’n cael eu chwalu ar gyfer pobl anabl yn systematig.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghyfraith Cymru (Mae Erthygl 9 yn cydnabod hawl pobl anabl i fyw’n annibynnol ac i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd).

Bu Anabledd Cymru yn dadlau o blaid ymgorffori'r Confensiwn ers blynyddoedd lawer, ac mae’n dweud mai dyma’r cam nesaf gorau i adeiladu Cymru cwbl gynhwysol. Dywed yr elusen:

Mae’n nodi’r camau allweddol er mwyn symud ymlaen tuag at Gymru lle gall pawb, yn enwedig pobl anabl, weithredu’n rhydd mewn cymdeithas, lle nad oes neb yn anabl oherwydd agweddau’r gymdeithas at eu namau, a lle y gall pawb fyw bywydau annibynnol, gan wneud beth bynnag maent yn dymuno ei wneud.

3.     Camau gan y Senedd

Ar 31 Ionawr 2018, cynhaliwyd dadl fer dan arweiniad Suzy Davies AC o’r enw Mynd i Mewn: Arddangos sgoriau hygyrchedd o ran mynediad i bobl anabl a diffibrilwyr. Yn ystod y ddadl trafodwyd rhinweddau deiseb a oedd yn galw am i bob 'mangre yng Nghymru gael rhif Tystysgrif Mynediad tebyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd' er mwyn annog busnesau i ddod yn fwy cynhwysol.

Roedd Fframwaith Gweithredu ar sail Anabledd: Hawl i Fyw'n Annibynnol’ Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i weithredu argymhellion a oedd yn deillio o’r ddeiseb ddiweddar ar gyfer ‘ymgyrch arddangos sgoriau hygyrchedd’ ac i ystyried sut y gellid datblygu ymgyrch o'r fath ledled Cymru. Mewn gohebiaeth at y Pwyllgor Deisebau ym mis Chwefror 2020, dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip fod cynllun peilot ar gyfer y prosiect hwn wedi’i gynllunio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Yn dilyn dadl o dan arweiniad Mark Isherwood AS ym mis Tachwedd 2022, mae’r Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu mecanwaith ariannu a chanllawiau clir ar doiledau changing places fel bod darpariaeth deg ar draws y wlad.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.